Bach y Graig - Planhigion Coetiroedd Hynafol

Y cerddinen folwst

Dangosydd coetir hynafol arbennig ym Mach y Graig yw'r gerddinen wyllt (Sorbus torminalis), aelod o deulu'r rhosyn. Mae cyswllt agos rhwng y goeden a choetiroedd a gwrychoedd hynafol oherwydd ei bod yn atgynhyrchu'n llystyfol trwy dyfu blagur newydd, sy'n cael eu galw'n grachgoed, o'i gwreiddiau.

Mae'r gerddinen wyllt yn tyfu ar glai yn nwyrain a de Lloegr, ac ym Mach y Graig; ac ar garreg galch mewn mannau eraill yn y gorllewin. Mae i'w chael yn bennaf yn Weald y de, o Gaint i Hampshire, ond mae'n aml i'w chael hefyd yn Nyffrynnoedd Gwy a Hafren ac ar hyd y Mers (yr enw ar ardal y ffin rhwng Cymru a Lloegr). Mae'r goeden i'w chael hefyd yn Swydd Lincoln, Swydd Northampton, i'r de ac i'r dwyrain o Birmingham, Suffolk, Essex a dwyrain Swydd Hertford ac yng Nghernyw a Sir Benfro. Yn llawer o'r siroedd hyn mae'n gysylltiedig â hen goedwigoedd.

Yn y gorffennol defnyddiwyd aeron y gerddinen wyllt i wneud diod alcoholaidd. Dywed rhai fod yr aeron yn cael eu heplesu i wneud cwrw, ond cred pobl eraill iddynt gael eu hychwanegu at wirod alcoholaidd fel y bydd eirin tagu (ffrwythau'r ddraenen ddu Prunus spinosa) yn dal i gael eu hychwanegu at jin. Yn y gorffennol, meddyliwyd bod enw'r gerddinen wyllt yn dod o'r Lladin cerevisia, sy'n golygu diod wedi eplesu. Y gred mwyach yw nad yw hyn yn wir a'i fod yn dod o'r Hen Saesneg syfre.

Yn rhai rhannau o Loegr yr enw ar yr aeron oedd chequers neu chokers, a chewch hyn weithiau fel enw lle ac yn aml fel enw ty tafarn.

Mae coetiroedd lled-naturiol hynafol a safleoedd coetir hynafol yn bwysig i blanhigion ac anifeiliaid, llawer ohonynt na allant fyw yn unrhyw fan arall.

Erbyn heddiw, nid yw llawer o'r planhigion sy'n tyfu mewn coetiroedd hynafol yn cynhyrchu had ffrwythlon. Os ydynt i ledaenu neu atgynhyrchu rhaid iddynt wneud hynny trwy gynhyrchu planhigion newydd o'u gwreiddiau neu o egin ochr. Caiff y broses hon ei galw yn atgynhyrchu llystyfol.

Mae'n haws i blanhigion sy'n atgynhyrchu trwy had ddod o hyd i lefydd newydd i fyw, gan fod y gwynt, neu adar ac anifeiliaid eraill yn gallu cludo eu had. Ni all planhigion sy'n defnyddio atgynhyrchu llystyfol symud ymhell ac ni allant symud o un coetir i'r llall. Ni allant oroesi os caiff coetir ei glirio. Felly, mae planhigion o'r fath yn nodwedd arbennig o goetiroedd lled-naturiol hynafol a safleoedd coetir hynafol, oherwydd bod y safleoedd hyn wedi bod yn goetir ers llawer canrif. Mewn gwirionedd, mae'r cyswllt rhwng planhigion o'r fath a choetiroedd hynafol mor agos fel y gallwch fod yn eithaf sicr eich bod mewn coetir hynafol os byddwch yn cael hyd iddynt. Oherwydd hyn caiff y fath blanhigion eu galw'n ddangosyddion coetir hynafol.

Mae llawer o blanhigion dangos coetir hynafol eraill ym Mach y Graig hefyd, fel bwtsias y gog (Endymion non-scriptus), briallu (Primula vulgaris), craf y geifr neu'r garlleg gwyllt (Allium ursinum) a blodyn y gwynt (Anemone nemorosa)

Valid XHTML for AccessibilityValid CSS for Accessibility

Website Design © Worldspan Marketing