Moch Daear Ym Mach Y Graig

Mae'r lliaws llethrau o bridd tywodlyd a chlai yn y coetiroedd, yr heddwch a'r darnau helaeth o laswelltir yn cael eu pori gan wartheg a defaid, yn gwneud Bach y Graig yn lle perffaith i foch daear (Meles meles) fyw.


Er na welwch fochyn daear efallai, mae arwyddion eu gweithgaredd ym mhobman yn y coetiroedd. Yr arwydd mwyaf amlwg yw llawer o lwybrau ag ôl traul arnynt. Mae moch daear yn gaeth i'w harferion, gan symud o gwmpas eu tiriogaeth ar yr un llwybrau drosodd a throsodd. Weithiau fe welwch olion eu traed yn y llaid ar hyd y llwybrau hyn.

Bydd moch daear yn aml yn defnyddio coed wedi cwympo a bonion fel llefydd chwarae. Mae'r pridd o gwmpas mannau o'r fath wedi'i sathru a'r planhigion wedi treulio. Yn aml bydd y boncyff neu fonyn ei hun yn llyfn ac yn sgleinio lle bydd y moch daear wedi'i dreulio.

Hefyd gwyliwch am doiledau moch daear, yn dwyn yr enw geudai. Caiff y rhain eu defnyddio i nodi ardal neu diriogaeth y moch daear. Fel arfer fe'u gwelwch fel nifer o dyllau wedi'u crafu yn y tir, rhai neu bob un ohonynt yn cynnwys baw moch daear.

Edrychwch yn agos (ond nid yn rhy agos!) ar y baw yma a byddwch yn gallu dweud beth fu'r moch daear yn ei fwyta.

Os yw'r baw yn llyfn a brown bu'r moch daear yn ôl pob tebyg yn bwyta pryfed genwair a malwod duon a gawsant yn y borfa tu allan i'r coetir, yn aml trwy dyrchu drwy faw gwartheg. Dyma hoff fwyd ym misoedd gwlypach yr hydref hwyr a'r gwanwyn, pan fydd pryfed genwair a malwod duon ar eu prysuraf.

Os yw'r baw yn cynnwys hadau brown mae'r moch daear wedi bod yn bwydo ar wenith neu haidd, yn aml trwy ysbeilio porthwyr y ffesantod yn y coedydd. Byddwch yn aml yn dod o hyd i hadau mewn baw moch daear yn ystod y gaeaf neu fisoedd hwyr yr haf, pan fo'n rhy oer neu'n rhy sych i bryfed genwair a malwod duon fod yn effro.

Os yw'r diferion yn lliw porffor mae'r moch daear wedi bod yn mwynhau mwyar duon, a bydd yr hydref wedi cyrraedd.

Valid XHTML for AccessibilityValid CSS for Accessibility

Website Design © Worldspan Marketing