E-bost: anwen@bachygraig.co.uk
Gwefan: www.bachygraig.co.uk
Adeiladwyd Bach y Graig ar gyfer Syr Richard Clough, oedd yn asiant i Syr Thomas Gresham yn Antwerp. Syr Thomas Gresham sefydlodd y Gyfnewidfa Frenhinol yn Llundain yn 1566, a Syr Richard Clough oedd yn gyfrifol am oruchwylio danfon y deunyddiau i'w hadeiladu o Antwerp.
Adeiladwyd Bach y Graig yn 1567. Codwyd Plas Clough gerllaw hefyd ar gyfer Syr Richard tua'r un pryd. Y gred yw mai yn y ddau adeilad yma y defnyddiwyd brics gyntaf yng Nghymru.
Mae defnyddio brics ac arddull yr adeiladau ym Mach y Graig yn dangos cysylltiadau agos Syr Richard ag Antwerp a'r Iseldiroedd, gyda dylanwad Isalmaenig cryf ar yr adeiladau.
Mae gwely a brecwast a llety hunanarlwyol ar gael yn y ffermdy.