Mae cofnodion ysgrifenedig yn dangos bod Bach y Graig yn goedwig, un o rwydwaith o barciau, coetiroedd a choedwigoedd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru oedd yn darparu coed a chynhyrchion eraill ar gyfer cestyll Edward yn y Fflint a Rhuddlan. Darn o dir oedd coedwig dan gyfraith fforest ac nid oedd bob amser yn goediog. Roedd cyfraith fforest yn rheoli pwy gâi ddefnyddio'r goedwig ac ar gyfer beth y cawsant ei defnyddio. Talwyd am bob defnydd. Yn 1328, er enghraifft, talodd Robert de Haurthyn ugain swllt am fesobr Bach y Graig. Mesobr oedd yr hawl i foch borthi ar fes oedd wedi cwympo o dderi'n tyfu'n y goedwig. Talwyd ceiniog y dydd i fforestwyr ddiogelu'r goedwig a sicrhau bod cyfraith fforest yn cael ei chadw.
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar ddeg mae cofnodion ysgrifenedig yn dangos bod Bach y Graig yn ffurfio rhan o'r tir yn nwylo Edward y Tywysog Du, fel iarll Caer a'r Fflint. Mae nifer o gofnodion yn dyddio rhwng 1352 a 1362 yn cyfeirio at anrheg y Tywysog o foncyffion gwywedig, deri crebachlyd a deri sych a di-ddail o Fach y Graig fel tanwydd i bobl yn aros yng nghastell Rhuddlan.