Ffôn: 01745 710626
Symudol: 07711 472033
E-bost: wr.waterfield@virgin.net
Mae Siarcol Bodfari yn gweithredu ar hugain hectar (hanner can erw) o goetir sy'n perthyn iddynt yn Nyffryn Chwiler yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, yng nghalon Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ac ar bwys llwybr troed hirbell Clawdd Offa.
Maent yn gynhyrchwyr siarcol, boncyffion tanwydd a choed tân o ffynonellau coetir lleol.
Maent hefyd yn grefftwyr prysgwydd gan wneud pethau fel clwydi ac ysgubau ac mae ganddynt feithrinfa goed sy'n cynnig rhywogaethau coed pren caled brodorol a dyfwyd o had o ffynonellau lleol.
Yn ogystal â rheoli coetiroedd bach, bydd Siarcol Bodfari yn prynu pren caled o waith teneuo coetiroedd lleol.
Mae Siarcol Bodfari hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio ac adeiladu llefydd chwarae a chodi adeileddau helyg byw.
Caiff cyrsiau hyfforddi eu darparu ar reoli coetiroedd bach ac ychwanegu gwerth at goed.