Melin Goed Ystad Mostyn

Cysylltwch â

Richard Davies
Melin Goed Ystad Mostyn, Plas Mostyn,
Treffynnon, CH8 9HN

Ffôn y Swyddfa: 01745 561188
Ffôn Gartref: 01745 561447
Ffacs: 01745 561587
Symudol: 07765 235692

Gwefan: www.mostyn-estates.co.uk/sawmill.htm

Partner allweddol ym mhrosiect Coetir Clwyd, yn hyrwyddo menter yr arwydd cynnyrch coetir treftadaeth.

Mae coetiroedd yr ystad ym Mostyn, Sir y Fflint a Choetiroedd Gloddaeth yn Llandudno, Conwy wedi bod yn nheulu Mostyn ers 1400. Gyda rheoli gweithredol yn dyddio'n ôl i'r adeg honno mae'r coetiroedd wedi bod yn adnodd coed cynaliadwy ar gyfer yr ystad. Mae rhan fwyaf y coetiroedd ym meddiant yr ystad yn safleoedd lled-naturiol hynafol neu goetir hynafol.

Caiff y coetiroedd eu rheoli'n gwbl unol â chanllawiau'r Comisiwn Coedwigaeth. O fewn y coetiroedd, caiff holl goed eu dewis yn ofalus ar gyfer cwympo neu deneuo. Caiff ardaloedd a gwympwyd eu hailblannu gyda choed brodorol i gynhyrchu adnodd pren caled cynaliadwy at y dyfodol.

Ar adeg cwympo caiff y goeden ei marcio gyda rhif unigryw. Fel y bydd y goeden a gwympwyd yn cael ei llifio yn y felin, caiff pob darn o bren ei farcio gyda rhif cyfatebol. Mae hyn yn golygu y gallwch olrhain y pren a brynwch nid yn unig yn ôl i'r coetir o ble y daeth, ond hefyd yn ôl i fonyn y goeden wreiddiol. Gall Melin Goed Ystad Mostyn ddarparu tystysgrif olrhain gyda phob un o'i gynhyrchion.

Mae Melin Goed Ystad Mostyn yn arbenigo mewn trawstiau, distiau a chapanau drysau derw ar gyfer gwaith adfer, a byrddau pren caled brodorol. Gall hefyd gyflenwi byrddau neu drawstiau llarwydd, pinwydd a phefrwydd. Mae dewis bob amser o dderw, masarn, castanwydd a cheirios wedi'u llifio yn iard y Felin Goed, ac mae cytiau sychu newydd yn caniatáu cyflenwi mwy a mwy o goed a sychwyd ag awyr.

Caiff holl bren ei lifio yn unol â'ch gofynion.

Valid XHTML for AccessibilityValid CSS for Accessibility

Website Design © Worldspan Marketing