
1. Cyffredinol.
1.1 Mae’r cytundeb hwn yn llywodraethu eich defnydd o’r wefan hon a’i gwasanaethau cysylltiedig sydd ym meddiant ac yn cael ei rhedeg gan Cadwyn Clwyd Cyf a’i is-gwmnïau, cysylltiedigion, adrannau a chwmnïau cysylltiedig (“Cadwyn Clwyd Cyf”).
1.2 Mae Cadwyn Clwyd Cyf yn cadw’r hawl, yn ôl ei ddoethineb, i newid neu addasu’r cyfan neu unrhyw ran o’r Cytundeb hwn ar unrhyw adeg, yn effeithiol ar unwaith wrth gyhoeddi rhybudd ar y Gwasanaeth Gwe. Mae eich defnydd o’r Gwasanaeth Gwe yn ffurfio eich derbyniad cyfrwymol o’r telerau ac amodau hyn, gan gynnwys unrhyw newidiadau neu addasiadau a wneir gan Cadwyn Clwyd Cyf fel y caniateir uchod. Os nad yw telerau ac amodau’r Cytundeb hwn yn dderbyniol i chi mwyach ar unrhyw adeg, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r Gwasanaeth Gwe a’r Rhannau Rhyngweithiol ar unwaith.
2. Defnyddio’r Cynnwys.
2.1 Rydych yn cydnabod fod y Gwasanaeth Gwe yn cynnwys gwybodaeth, meddalwedd, ffotograffau, clipiau sain a fideo, graffeg, dolenni a deunydd arall sy’n cael eu gwarchod trwy hawlfraint, nod masnach neu hawliau perchenogol eraill Cadwyn Clwyd Cyf neu drydydd bartïon, gan gynnwys ond heb fod wedi ei gyfyngu i enwau cynnyrch, logos, dyluniadau, teitlau, a geiriau neu ymadroddion all fod yn gofrestredig mewn awdurdodaethau arbennig (fel cyfangorff, y “Cynnwys”). Rydych yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw rybuddion, gwybodaeth, neu gyfyngiadau hawlfraint ychwanegol sydd yn unrhyw Gynnwys ar gael ar neu â mynediad iddo drwy’r Gwasanaeth Gwe. Caiff defnyddwyr y Gwasanaeth Gwe ddefnyddio’r Cynnwys at eu defnydd personol, anfasnachol yn unig. Rhaid i ddefnyddwyr y Gwasanaeth Gwe sydd eisiau defnyddio’r Cynnwys at ddefnydd masnachol gael caniatâd ysgrifenedig pendant Cadwyn Clwyd Cyf o flaen llaw.
2.2 Ni chewch addasu, cyhoeddi, trawsyrru, trosglwyddo neu werthu, atgynhyrchu, creu gweithiau deilliadol o, dosbarthu, perfformio, arddangos, na manteisio mewn unrhyw fodd ar unrhyw ran o’r cynnwys, yn llawn neu’n rhannol, heblaw lle caniateir hynny’n benodol fel arall yn y Cytundeb hwn. Nid oes hawl dadosod cynnwys sy’n feddalwedd i’w lawrlwytho heblaw gydag awdurdod penodol perchennog patent a/neu hawlfraint y meddalwedd. Yn amodol ar ddarpariaethau’r Cytundeb hwn, cewch osod ar y Gwasanaeth Gwe unrhyw gynnwys yn eich meddiant (fel eich datganiadau gwreiddiol), cynnwys y cawsoch ganiatâd pendant y perchennog amdano, a chynnwys sy’n eiddo cyhoeddus. Rydych yn derbyn pob hawl a chyfrifoldeb dros benderfynu a yw unrhyw gynnwys yn eiddo cyhoeddus. Rydych yn rhoi hawl i Cadwyn Clwyd Cyf olygu, copïo, cyhoeddi, dosbarthu, cyfieithu a defnyddio fel arall mewn unrhyw gyfrwng ac at unrhyw ddiben unrhyw gynnwys a ddodwch ar y Gwasanaeth Gwe heb eich digolledu. Rydych yn honni ac yn gwarantu fod gennych awdurdod i ganiatáu holl hawliau a amlinellwyd yn y frawddeg flaenorol.
2.3 Ni chewch lawrlwytho cynnwys ar y wefan hon a nodir ei fod ar werth heblaw yn ôl telerau’r gwerthiant. Mae cynnwys o’r fath yn eiddo gwarchodedig a hawlfraintadwy Cadwyn Clwyd Cyf. Cewch lawrlwytho cynnwys “am ddim” at eich defnydd personol neu ddosbarthu anfasnachol yn gyson â’r telerau a diffinnir yn y Cytundeb hwn. Wrth ddefnyddio cynnwys a brynwyd a chynnwys “am ddim” fel ei gilydd, byddwch yn cynnal a chynnwys holl rybuddion hawlfraint a rhybuddion eraill sydd mewn cynnwys o’r fath. Heblaw fel y bydd y cyfreithiau hawlfraint yn caniatáu’n benodol, ni chaniateir copïo, cadw, ailddosbarthu na chyhoeddi unrhyw gynnwys heb ganiatâd pendant Cadwyn Clwyd Cyf neu berchenogion cynnwys o’r fath neu rai a awdurdodir ganddynt os yn rhywun heblaw Cadwyn Clwyd Cyf.
3. Rheolau Ymddygiad.
Ni fydd i chi osod ar y Gwasanaeth Gwe unrhyw gynnwys (a) sydd yn enllibus, difenwol, anllad, pornograffaidd, amharchus, aflonyddol neu fygythiol; (b) sydd yn cynnwys firysau neu nodweddion llygrol neu ddinistriol eraill; (c) sydd yn torri hawliau pobl eraill, fel cynnwys sy’n torri unrhyw hawlfraint, nod masnach, patent, cyfrinach fasnachol neu sy’n torri unrhyw hawl i breifatrwydd neu gyhoeddusrwydd; neu (d) sydd fel arall yn torri unrhyw ddeddf berthnasol neu enw da. Ni chewch osod ar y Gwasanaeth Gwe unrhyw ddolenni i unrhyw Wefannau allanol sy’n anllad neu bornograffaidd. Nid ydych i ddefnyddio’r Gwasanaeth Gwe at unrhyw ddiben masnachol na chymeradwywyd yn benodol gan Cadwyn Clwyd Cyf, na chwaith ddosbarthu unrhyw hysbysebu neu lithio cyllid neu nwyddau a gwasanaethau nac erfyn ar ddefnyddwyr i ymuno â gwasanaethau ar-lein cystadleuol.
4. Rheoli’r Cynnwys.
Ni fydd ac ni all Cadwyn Clwyd Cyf adolygu’r cynnwys a osodir gan ddefnyddwyr ar y Gwasanaeth Gwe ac nid yw’n gyfrifol am gynnwys o’r fath. Fodd bynnag, mae Cadwyn Clwyd Cyf yn cadw’r hawl i ddileu, symud neu olygu unrhyw gynnwys (gan gynnwys yr hyn a osodwyd yn unrhyw Ran Ryngweithiol) ag y gall benderfynu, yn ôl ei ddoethineb ei hun, sy’n torri neu all dorri’r Cytundeb hwn neu sy’n annerbyniol fel arall. Bydd i chi aros yn gyfan gwbl gyfrifol am holl gynnwys a osodwyd gennych chi. Bydd gan Cadwyn Clwyd Cyf yr hawl ond nid yr ymrwymiad, i gywiro unrhyw gamgymeriadau neu ddiffygion yn unrhyw gynnwys, ag y gall benderfynu yn ôl ei ddoethineb ei hun.
5. Dim Ardystiad.
5.1 Nid yw Cadwyn Clwyd Cyf yn cynrychioli nac yn ardystio cywirdeb na dibynadwyedd unrhyw gynnwys a osodwyd ar unrhyw Ran Ryngweithiol ac rydych yn cydnabod y byddwch yn dibynnu ar unrhyw gynnwys o’r fath ar eich cyfrifoldeb eich hun yn unig. Barn y defnyddiwr sy’n gosod y datganiad yw unrhyw gynnwys ar unrhyw Ran Ryngweithiol ac nid yw’n cynrychioli barn Cadwyn Clwyd Cyf na’i hysbysebwyr neu noddwyr.
5.2 Gall y Gwasanaeth Gwe gynnwys dolenni i safleoedd ar y Rhyngrwyd sydd ym meddiant ac yn cael eu rhedeg gan drydydd bartïon (y “Safleoedd Allanol”). Rydych yn cydnabod nad yw Cadwyn Clwyd Cyf yn gyfrifol am argaeledd na’r cynnwys ar neu drwy unrhyw Safle Allanol. Dylech gysylltu â gweinyddwr y safle neu Wefeistr y Safleoedd Allanol hynny os oes gennych unrhyw bryderon o ran dolenni o’r fath neu’r cynnwys ar Safleoedd Allanol o’r fath.
6. Rhyddarbediad.
Rydych yn cytuno i ryddarbed, amddiffyn a dal Cadwyn Clwyd Cyf a’i gysylltiedigion, a’u gwahanol swyddogion, cyfarwyddwyr, perchenogion, asiantau, darparwyr gwybodaeth a thrwyddedwyr (fel cyfangorff, “Partïon Cadwyn Clwyd Cyf”) yn ddiogel rhag ac yn erbyn unrhyw a phob hawliad, atebolrwydd, colled, cost a thraul (gan gynnwys ffioedd atwrneiod) a dalwyd gan unrhyw Barti Cadwyn Clwyd Cyf mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd neu ddefnydd honedig o’r gwasanaeth gan unrhyw un dan eich enw defnyddiwr, boed wedi ei awdurdodi gennych chi neu beidio. Mae Cadwyn Clwyd Cyf yn cadw’r hawl, ar eich traul, i amddiffyn a rheoli’n gyfyngedig unrhyw fater sydd fel arall i’w ddigolledu gennych chi ac, mewn achos o’r fath, rydych yn cytuno i gydweithredu gydag amddiffyniad Cadwyn Clwyd Cyf o hawliad o’r fath.
7. Terfynu’r Gwasanaeth.
Mae Cadwyn Clwyd Cyf yn cadw’r hawl, yn ôl ei ddoethineb ei hun, i gyfyngu ar, atal dros dro neu derfynu eich mynediad at y cyfan neu unrhyw ran o’r Gwasanaeth Gwe, gan gynnwys y Rhannau Rhyngweithiol, ar unrhyw adeg am unrhyw reswm heb rybudd ymlaen llaw nac atebolrwydd. Gall Cadwyn Clwyd Cyf newid, atal dros dro neu derfynu pob neu unrhyw agwedd ar y Gwasanaeth Gwe ar unrhyw adeg, gan gynnwys argaeledd unrhyw nodwedd, cronfa ddata neu Gynnwys (gan gynnwys y Rhannau Rhyngweithiol), heb rybudd ymlaen llaw nac atebolrwydd.
8. Nac á u Gwarantau; Nac á u Atebolrwydd.
8.1 Nid yw Cadwyn Clwyd Cyf nac unrhyw ddarparwyr cynnwys trydydd parti na’u gwahanol asiantau yn gwarantu y bydd y Gwasanaeth Gwe yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau. Nid yw Cadwyn Clwyd Cyf, unrhyw ddarparwyr cynnwys trydydd parti, na’u gwahanol asiantau yn gwneud unrhyw warant chwaith ar y canlyniadau i’w cael o ddefnyddio’r Gwasanaeth Gwe na’r cynnwys. Mae’r Gwasanaeth Gwe a’r cynnwys yn cael eu dosbarthu ar sail “fel y bo, fel y bo ar gael”. Nid yw Cadwyn Clwyd Cyf nac unrhyw ddarparwyr cynnwys trydydd parti na’u gwahanol asiantau yn gwneud unrhyw warantau o unrhyw fath chwaith, naill ai’n bendant neu’n oblygedig, gan gynnwys heb gyfyngiad, gwarantau o deitl neu warantau goblygedig o fasnachadwyedd neu gymhwyster at ddiben arbennig, mewn perthynas â’r Gwasanaeth Gwe, unrhyw gynnwys neu unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau a werthir drwy’r Gwasanaeth Gwe. Nid yw Cadwyn Clwyd Cyf nac unrhyw ddarparwyr cynnwys trydydd parti yn gwarantu chwaith y bydd unrhyw ffeiliau ar gael i lawrlwytho drwy’r Gwasanaeth Gwe yn rhydd o firysau neu halogiad tebyg neu nodweddion dinistriol. Rydych yn cytuno’n benodol eich bod chi yn unig yn derbyn y risg i gyd o ran ansawdd a chyflawniad y gwasanaeth a chywirdeb neu gyflawnder y cynnwys.
8.2. Ni fydd Cadwyn Clwyd Cyf nac unrhyw ddarparwyr cynnwys trydydd parti na’u hasiantau yn atebol am unrhyw weithred, uniongyrchol neu anuniongyrchol, iawndal atodol, arbennig neu ganlyniadol yn deillio o ddefnyddio neu fethu defnyddio’r gwasanaeth, hyd yn oed os cynghorwyd y cyfryw barti o bosibilrwydd iawndal o’r fath.
8.3. Nid yw rhai gwledydd yn caniatáu gwarantau eithrio neu oblygedig neu gyfyngiad atebolrwydd am iawndal atodol neu ganlyniadol, fel y gall y cyfyngiadau neu eithriadau uchod beidio â bod yn berthnasol i chi. Mewn gwledydd o’r fath, bydd i atebolrwydd Cadwyn Clwyd Cyf, darparwyr cynnwys trydydd parti a’u gwahanol asiantau fod yn gyfyngedig i’r eithaf a ganiateir yn ôl y gyfraith.
9. Gwybodaeth i Fuddsoddwyr.
Caiff deunyddiau cysylltiadau buddsoddwyr ar y wefan hon eu darparu er cyfleuster yn unig, gan fod yn berthnasol i’w dyddiad gwreiddiol neu’r dyddiad a nodwyd yno yn unig. Gall gwybodaeth sydd ar gael newid ar unrhyw adeg ac efallai nad yw hynny’n cael ei adlewyrchu ar y wefan hon. Mae Cadwyn Clwyd Cyf yn ymwadu ag unrhyw gyfrifoldeb dros ddiweddaru’r wefan hon.
10. Datganiadau Rhagolygol.
Datganiadau rhagolygol yw’r datganiadau sydd ar y wefan hon a defnyddiau eraill sydd ar gael drwy’r tudalennau hyn nad ydynt o natur hanesyddol sydd â risgiau ac ansicrwydd ynghlwm wrthynt. Er bod rheolwyr Cadwyn Clwyd Cyf yn credu y seiliwyd eu disgwyliadau ar dybiaethau rhesymol o fewn terfynau eu gwybodaeth am fusnes Cadwyn Clwyd Cyf, ni all fod unrhyw sicrwydd y bydd amcanion ariannol y cwmni yn cael eu gwireddu. Gall ffactorau niferus effeithio ar wir ganlyniadau’r cwmni a gallant beri i ganlyniadau wahaniaethu’n sylweddol o’r rhai a fynegir mewn datganiadau rhagolygol a wneir gan neu ar ran y cwmni. Mae ffactorau allai beri bod gwir ganlyniadau’n gwahaniaethu’n sylweddol yn cynnwys amrywiadau mewn derbyniadau hysbysebu gyda chylchdroeon economaidd cyffredinol; gallu’r rheolwyr i ganfod, ariannu, cwblhau ac ymdoddi caffaeliadau; llwyddiant sioeau masnach a chynadleddau rhyngrwyd / band eang; natur dymhorol derbyniadau o gyhoeddi a sioeau a chynadleddau masnach; llwyddiant cynhyrchion newydd; cynnydd yng nghostau papur a’r post; torri neu ddirymu hawliau eiddo deallusol Cadwyn Clwyd Cyf; a’r ffactorau a restrir o bryd i’w gilydd yn adroddiadau Cadwyn Clwyd Cyf a ffeiliwyd gyda’r comisiwn gwarannau a chyfnewid. Nid yw Cadwyn Clwyd Cyf yn gwneud unrhyw ymrwymiad i ddiweddaru neu adolygu’n gyhoeddus unrhyw ddatganiadau rhagolygol ar y wefan hon boed hynny o ganlyniad i wybodaeth newydd, digwyddiadau’n y dyfodol neu fel arall
Website: Valid XHTML and CSS For Accessibility | Web Design: Worldspan Creative