Y gred yw bod coetiroedd lled-naturiol hynafol wedi bodoli am o leiaf bedwar can mlynedd. Y coed yn y coetiroedd hyn yn bennaf fydd y rhai sy'n tyfu'n naturiol ym Mhrydain ac yn y cylch. Enw'r rhain yw coed brodorol.
Safle coetir hynafol yw tir sydd yn cael ei dybio iddo fod yn goetir am o leiaf bedwar can mlynedd hefyd. Fodd bynnag, y coed ar y safleoedd hyn yn bennaf fydd y rhai nad ydynt yn tyfu'n naturiol ym Mhrydain neu nad ydynt yn tyfu'n naturiol yn y cylch.
Yn y ddau fath o goetir, parhad hirdymor gorchudd o goetir sy'n gwneud y safleoedd yn hynafol. Gall y coed eu hunain fod yn bur ifanc, er y gall fod rhai coed hen iawn yn aml.
Yn y ddau fath o goetir bydd anifeiliaid a phlanhigion brodorol sy'n dibynnu ar y coetir i oroesi.
Prosiect wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd trwy LEADER+ yw Coetir Clwyd. Mae'r prosiect dan reolaeth Cadwyn Clwyd Cyfyngedig, cwmni datblygu gwledig seiliedig yng Ngogledd Cymru (www.cadwynclwyd.co.uk).
Ei nod yw helpu busnesau coetir presennol a newydd i wneud y defnydd gorau o goetiroedd yng nghefn gwlad Sir Ddinbych a Sir y Fflint yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gwneud hyn trwy ddarparu mainc arbrofi a llwyfan i arddangos ffyrdd newydd o ddefnyddio'r coetiroedd a marchnata cynhyrchion coed, fydd yn cynorthwyo gwarchod y coetiroedd at y dyfodol.
Bydd y wefan hon yn cadw cysylltiad rhyngoch â gwaith y prosiect a'i bartneriaid.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar goetiroedd lled-naturiol hynafol a safleoedd coetir hynafol. Wrth wneud hynny bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd economaidd, naturiol, diwylliannol a hanesyddol y coetiroedd hyn.
Website: Valid XHTML and CSS For Accessibility | Web Design: Worldspan Creative