Bydd Cyfeirlyfr Coed Lleol Gogledd-ddwyrain Cymru o gymorth i chi ddod o hyd i bobl sy’n gallu gwneud cylch allweddi i chi o ddarn o bren maint blwch matsis, neu sy’n gallu gwneud bwrdd ystafell fwyta ar eich cyfer i bara mil o flynyddoedd. Efallai eich bod yn chwilio am ffens newydd i’r ardd, llawr pren caled soled, bwrdd picnic neu gât bren. Os ydych yn chwilio am rywbeth llai, fe welwch lwyau caru, ffyn, cychod tegan, powliau pren, coesau lamp a llawer mwy.
Bydd gwneuthurwyr, crefftwyr a selogion DIY yn dod o hyd i gyflenwyr amrywiaeth eang o brennau Cymreig, yn rhedeg o dderw, ffawydd ac onnen i larwydd a phefrwydd.
Yn ogystal â hyrwyddo’r diwydiant coed yng Ngogledd-ddwyrain Cymru cynhyrchwyd y Cyfeirlyfr Coed Lleol gyda golwg ar ddatblygu dealltwriaeth o sut a pham fod coetiroedd a busnesau coetir yn hanfodol i’r Gogledd-ddwyrain.
Mae’r Cyfeirlyfr Coed Lleol yn rhoi manylion cysylltu llawn busnesau coetir sy’n gweithio yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a chyrff eraill gyda diddordeb mewn neu gyfrifoldeb dros goetiroedd y rhanbarth. Mae’r Cyfeirlyfr hefyd yn taro golwg dros goetiroedd y rhanbarth, cyngor ar dyfu a phlannu coed a llwyni brodorol a chipolwg ar y diwydiant coed a nodweddion a defnydd gwahanol brennau.